Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 2019

 

 

Craffu Technegol

 

Mae elfen craffu technegol yr adroddiad drafft yn cyfeirio at un pwynt drafftio, sef nad yw’r Rheoliadau drafft yn gwbl glir o ran ystyr “mis” yn rheoliad 4.

 

Rydym yn nodi’r ymrwymiad a wnaed gan y Cwnsler Cyffredinol yn y llythyr dyddiedig 9 Chwefror 2018 i geisio defnyddio technegau megis troednodiadau yn fwy pan na fo diffiniad wedi ei gynnwys yn yr is-ddeddfwriaeth ei hun. Fodd bynnag, yn yr un ymateb, cynghorodd y Cwnsler Cyffredinol “… os bwriedir i air fod â’r ystyr gyffredin sydd iddo mewn geiriadur, neu os yw’n amlwg o’r cyd-destun at beth y mae’r term yn cyfeirio, gallai cynnwys diffiniad beri tipyn o ddryswch”. Rydym yn ystyried, o dan yr amgylchiadau hyn, fod ystyr mis (h.y. mis calendr) yn ddigon clir o gyd-destun y rheoliadau.  Fel yr ydych wedi ei amlygu’n gywir, dangosir hyn gan y cyfeiriadau at “diwrnod olaf y mis” sy’n nodi’n glir fod mis i olygu mis calendr.

 

Hefyd, mae’r geiriad a’r dull o gyfrifo trosiant corff dyfarnu wedi bodoli ers cyfnod sylweddol o amser heb unrhyw broblem amlwg (gweler Gorchymyn y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau (Penderfynu ar Drosiant ar gyfer Cosbau Ariannol) 2012 yn Lloegr a’r rheoliadau blaenorol a oedd mewn grym yng Nghymru -  Gorchymyn Personau Cydnabyddedig (Cosbau Ariannol) (Penderfynu Trosiant) (Cymru) 2012). Felly, byddai cyrff dyfarnu, sy’n gweithredu yng Nghymru ac yn Lloegr, yn gyfarwydd â’r geiriad hwn a bod “mis” yn golygu mis calendr.  

 

Felly, ystyrir nad oes angen diwygiad i ymdrin â’r pwynt craffu technegol hwn.

 

 

Craffu ar Rinweddau

 

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

Nodir y pwynt.  Fodd bynnag, byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud y pwynt a ganlyn:

 

 

2.  Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

Nodir y pwynt.

 

3.  Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi’r materion y mae’r Pwyllgor wedi awgrymu y dylid eu hegluro a chaiff y Memorandwm Esboniadol ei dynnu’n ôl a’i ddiwygio cyn ei ailosod.